Skip to content

Enw lwyfan Gareth Bonello, cyfansoddwr ac offerynnydd o Gaerdydd yw The Gentle Good. Mae Gareth wedi ei ddylanwadu yn gryf gan gerddoriaeth a thraddodiadau werin Cymru yn ogystal â dylanwadau o bedwar ban byd. Mae’r holl lot yn dod at ei gilydd i greu cerddoriaeth werin hudol a modern yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn adnabyddus am ei allu ar y gitâr acwstig a’i llais ganu tyner, mae Gareth fedru swyno cynulleidfa fel cerddor unigol, er bod y band byw yn aml yn ehangu i gynnwys amryw o gerddorion hyd at fand llawn a phedwarawd llinynnol. Mae Gareth wedi cydweithio gyda’r cyfansoddwr Seb Goldfinch a’r pedwarawd llinynnol y Mavron Quartet ar bob un o’i albymau hyd yn hyn, ac mae trefniannau rhagorol Seb wedi dod yn elfen nodweddiadol o recordiau The Gentle Good.

Mae The Gentle Good wedi rhyddhau sawl albwm megis ‘Tethered for the Storm’ ac ‘Y Bardd Anfarwol’, sydd wedi derbyn canmoliaeth gan adolygwyr a ffans cerddoriaeth gyfoes. Cafodd y ddau albwm yna eu henwebu ar gyfer y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011 ac 2014. Ysgrifennwyd ‘Y Bardd Anfarwol’ yn ystod cyfnod preswyl gyda’r Chengdu Associated Theatre of Performing Arts yn Ne Tsieina yn 2011. Mae’n adrodd hanes y bardd enwog Li Bai, ac yn 2014 cipiodd y record gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr albwm hwn hefyd oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i ddrama Wyn Mason ‘Rhith Gan’, a enillodd y fedal ddrama yn 2015 a chafodd ei lwyfannu gan Theatr Genedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol 2016.

Mae’r albwm newydd ‘Ruins/Adfeilion’ yn archwilio themâu hunaniaeth a chyfiawnder cymdeithasol ar ddechrau’r 21ain Ganrif. Cafodd yr albwm ei recordio yn byw yn bennaf dros gyfnod o 5 diwrnod gyda’r cynhyrchydd Llion Robertson. Mae’r record yn cynnwys cyfraniadau gan Callum Duggan ar y bas dwbl, Jack Egglestone ar ddrymiau, Dylan Fowler ar mandocello a Georgia Ruth ar delyn a llais. Mae’r albwm newydd hefyd yn cynnwys trefniannau ysblennydd Seb Goldfinch, wedi eu perfformio heb gam unwaith eto gan y Mavron Quartet.

Ym mis Mai 2016, dechreuodd Gareth astudio am PhD gyda Phrifysgol De Cymru a’r Coleg Cymraeg. Mi fydd y PhD yn edrych ar gerddoriaeth Bryniau Khasia yng Ngogledd Ddwyrain India ac yr hanes mae’r ardal yn rhannu gyda Chymru o ganlyniad i ddyfodiad y cenhadon o’r 1840au ymlaen.

Artist Image

Adolygiadau

“Mae diddordeb a chariad Gareth tuag at gerddoriaeth werin ac acwstig yn gwbl amlwg o’r eiliad gyntaf chi’n clywed ei gerddoriaeth. Mae’n bur ac yn onest, yn awyddus i fynd a chi i fyd arall tra’n gwbl gyffyrddus yn y byd mae’n bodoli.” – Huw Stephens, BBC Radio 1

fRoots “…a warm wash of aural sunlight…a fresh lungful of pure mountain air”
Folk Radio UK “…as delicate as a watercolour yet with the energy of a master calligrapher’s work”
Drowned in Sound “…a truly singular recording”
Americana UK “…pure and beautiful, soaring and verdant”
Bright Young Folk “a beautiful piece of work, serene, thoughtful and engaging.”
Golwg 360 “Mae’r record fel petai’n gam uwchben unrhyw record Gymraeg arall, a’r Bardd Anfarwol fydd y llinyn mesur i mi o hyn ymlaen”
St Pauls Lifestyle “an international masterpiece”
Pennyblack Music “stunningly beautiful”